Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(10 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil diogelwch cladin
(30 munud)
NDM7828
Rhys
ab Owen (Canol De Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Peter Fox
(Mynwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.
Cefnogwyr:
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
7 Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith
(60 munud)
NDM7841
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi:
a) Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021;
b) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021;
c) Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst 2021;
d) Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 3 Medi 2021;
e) Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021;
f) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021; ac
g) Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
(60 munud)
NDM7840 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig yn unig.
2. Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru.
3. Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:
a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein, erbyn 2023;
b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu hawdurdod lleol;
c) sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.
Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn cydnabod gwaith allweddol arolygwyr lles anifeiliaid yr awdurdodau lleol o ran cynnal safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, fel canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu ar-lein;
b) datblygu trefniadau er mwyn diogelu safonau gofynnol o ran hyfforddiant, staff a’r amgylchedd er mwyn sicrhau lles anifeiliaid mewn sefydliadau lles anifeiliaid;
c) gwella’r cymwysterau ar gyfer arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol;
d) cefnogi awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu cydnerthedd er mwyn helpu i reoli’r dosbarthiad anghyson o sefydliadau lles anifeiliaid ar draws Cymru;
e) ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch sut y dylai unigolion sy’n ailgartrefu anifeiliaid ddatgan eu gweithgareddau o dan drwydded oddi wrth eu hawdurdod lleol.
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7839 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: dechrau sgwrs genedlaethol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2021